Mae Lôn Las Cefni yn llwybr beicio oddi ar ffordd
12 milltir o hyd sy'n dilyn cwrs yr afon Cefni trwy
Wlypdir Malltraeth o Langefni (tref sirol Ynys Môn)
i'r arfordir. Mae'r prosiect hwn wedi cynnwys
gwaith peirianneg sifil mawr wrth ail broffilio
glannau gorlifo afon Cefni. Mae Gwlypdir
Malltraeth yn SoDdGA yn sgil ei fflora a'i adar
dyfrol ac y mae'n un o'r safleoedd allweddol ym
Mhrydain ar gyfer rhywogaeth llygod pengrwn y
dwr sy'n prysur brinhau.
Roedd y lliniariad ar gyfer y prosiect hwn yn gofyn am drawsleoli llaid sy'n cludo hadau o'r hen
ffos ddraenio i'r un newydd, dal a thrawsleoli llygod pengrwn y dwr i gynefin addas ac ail-greu
cynefin o ansawdd uchel i lygod pengrwn y dwr ar ei glannau. Gosodwyd ffens o amgylch y
ffosydd ochr i greu cynefin newydd i lygod pengrwn y dwr ac annog blodau ffos SoDdGA.
Cleient:
Asiantaeth Amgylchedd Cymru
Adeiladu Chwefror
2003
Adeiladu Chwefror 2003
Dr H.A.Knott, MM Environmental, Bryn Cefni Industrial Park, Llys Goferydd, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA
Tel: 01248 725 700 Fax: 01248 725 735 Email:mmenviron@mentermon.com