|
 |
Goroesodd poblogaeth gwiwerod coch Ynys Môn gan nad ymsefydlodd gwiwerod llwyd yn llawn hyd at y
1980'au. Erbyn y 1990'au roedd niferoedd y gwiwerod coch yn disgyn yn gyflym, ac erbyn 1998 roeddent
wedi eu cyfyngu i blanhigfa coed conwydd Pentraeth (tua 200 ha).
Yr amcan yn y lle cyntaf oedd clirio gwiwerod llwyd o Bentraeth ac yna, gymaint oedd yn bosib, o weddill yr
ynys. Erbyn heddiw, mae gwiwerod llwyd wedi cael eu clirio'n llwyddiannus o Goedwig Pentraeth a
Choedwig Niwbwrch (tua 750 ha, gweler uchod) ac o rannau helaeth o goedydd dail llydan Ynys Môn. Y
prif ddull yw dal gwiwerod llwyd byw yn systematig ac yna eu difa'n drugarog.
Fe fydd y prosiect hefyd o fudd i goed a phoblogaethau adar y coedlannau sy'n bridio. Mae tystiolaeth
dda fod difrod i'r ddau beth gan wiwerod llwyd.
Mae hwn yn brosiect mawr sy'n cynnwys cydweithrediad sawl perchennog tir.
|
Dim ond mewn dyrnaid o safleoedd yng Nghymru
y ceir Gwiwerod Coch (Sciurus vulgaris) bellach.
Sefydlwyd Prosiect Gwiwerod Coch yn 1998 i
amddiffyn a gwarchod poblogaeth o'r anifail prin
hwn.
Amcan:
1) achub gweddill poblogaeth y
gwiwerod coch yng Nghoedwig
Pentraeth ar Ynys Môn rhag
difodiant trwy raglen o reoli
gwiwerod llwyd
2)caniatáu i boblogaeth y gwiwerod
coch i ailwladychu eu hen
gyrchfeydd ar yr ynys.
Caiff y gwiwerod coch eu monitro'n gyson a
gwneir gwelliannau i gynefinoedd sy'n bodoli
eisoes. Sefydlwyd prosiect ailgyflwyno gwiwerod
coch yng Nghoedwig Niwbwrch yn 2003 ac y
mae wedi bridio gwiwerod coch o fewn llociau yn
llwyddiannus, a'r rheiny wedi cael eu rhyddhau i'r
goedwig. Mae'r boblogaeth newydd nawr yn
bridio yn y gwyllt.
Partner prosiect:
Pwyllgor Prosiect Gwiwerod Coch Ynys
Môn, Fforwm Gwiwerod Cymru |
 |
|
|
|