|
|
Dehongli Cynllunio:
Fe fyddwn ni'n asesu ac yn dehongli'r materion amgylcheddol sy'n
ymwneud â cheisiadau a phenderfyniadau cynllunio, os mai chi yw'r
ymgeisydd neu os ydych chi'n tendro am gontractau.
Dogfennau Tendro/Cynllunio:
Fe fyddwn ni'n paratoi pob dogfen angenrheidiol sy'n ymwneud â
materion amgylcheddol i gyd-fynd â chyflwyniadau tendro neu
geisiadau cynllunio.
Asesiad o Effaith Amgylcheddol:
Fe fyddwn ni'n cynnal gwerthusiad llawn o'r safle ac asesiad o effaith
amgylcheddol y cynigion ar sail ffactorau ecolegol, tirwedd, treftadaeth
ac economaidd gymdeithasol. Fe fydd hyn yn cynnwys mapio
cynefinoedd a nodweddion eraill. |
Arolwg Ecolegol:
Mae gennym arbenigedd yn ein plith ar feysydd arbenigol o arolygu
ecolegol a rhwydwaith o arbenigwyr ym mhob un o'r prif ddisgyblaethau.
Rhywogaethau a Warchodir:
Mae rhywogaethau a warchodir yn codi problemau neilltuol i'r datblygwr.
Efallai y bydd gofyn rhoi mesurau lliniarol arbennig ar waith, ac mewn rhai
achosion - lle mae rhywogaethau a warchodir yn drylwyr dan sylw, fel
ystlumod a'r madfallod dwr cribog - efallai y bydd gofyn cael
trwyddedau i aflonyddu ar y rhywogaethau yma. Mae gan MM
Amgylcheddol weithwyr trwyddedig a phrofiad o reoli'r rhywogaethau
yma a rhai eraill sy'n cael eu gwarchod. Cyswllt â Chyrff Statudol ac Anstatudol:
Fe fyddwn ni'n rheoli pob cyswllt â chyrff cadwraethol ac amgylcheddol, fel
CCGC ac Asiantaeth yr Amgylchedd, cyrff statudol fel Cynghorau Sir, a
sefydliadau nad ydynt yn rhan o'r llywodraeth neu rai gwirfoddol fel yr RSPB. Rheoliad Prosiectau Ymarferol:
Fe fyddwn ni'n ymchwilio, dylunio ac yn gweithredu prosiectau ymarferol, naill ai
fel lliniariad ar gyfer effeithiau amgylcheddol neu i wella prosiectau, ym meysydd
cadwraeth, mynediad a threftadaeth. Gall prosiectau gynnwys:
1) Gwarchod nodweddion amgylcheddol, fel coed, rhywogaethau,
cynefinoedd, a nodweddion archeolegol
2) Adfer neu greu cynefinoedd, fel glannau afon, pyllau, coetiroedd,
rhostiroedd, dolydd blodeuog
3) Trawsleoli cynefinoedd a rhywogaethau, fel dolydd, rhostiroedd, mamaliaid
bach, ymlusgiaid
4) Creu tirweddau naturiol ac amgylcheddau bioamrywiol i ategu cynlluniau
datblygu
5) Darparu gwasanaethau 'brîff gwylio' ar gyfer effeithiau amgylcheddol
6)A llawer mwy…….. Monitro ac Ôl-ofal:
Fe fydd prosiectau lliniarol amgylcheddol mawr fel arfer yn gofyn am fonitro
cyson am ychydig o flynyddoedd ar ôl cwblhau'r gwaith. Fe fyddwn ni'n rheoli
monitro ac ôl-ofal eich prosiect am hyd at 5 mlynedd. |
|
|
|