|
Fel arfer, fe fydd datblygu Cynllun Gweithredu
Amgylcheddol yn gofyn am y camau canlynol: Asesiad Cychwynnol
o Gynigion Datblygu: Fe fyddwn ni'n cynnal gwerthusiad cychwynnol
o'r safle ac asesiad o'r goblygiadau amgylcheddol ac effaith
y cynlluniau yn seiliedig ar ffactorau ecolegol, tirwedd, treftadaeth
ac economaidd gymdeithasol. Fe fydd hyn yn cynnwys mapio cynefinoedd
a nodweddion eraill. Asesiad o Effaith Amgylcheddol (EIA): Ar
sail y gwerthusiad cychwynnol o'r safle, fe allai EIA llawn
fod yn angenrheidiol. Fe fydd MMAmgylcheddol yn cynnal yr EIA,
yn nodi pob nodwedd sensitif, yn llunio cyfarwyddebau i'w rheoli,
yn amlinellu gwelliannau positif arfaethedig ac yn integreiddio'r
rhain i Gynllun Gweithredu Amgylcheddol. Rhywogaethau a Warchodir:
Rhoddir sylw arbennig i rywogaethau a warchodir, ac yn enwedig
rhywogaethau a warchodir yn drylwyr, fel y Fadfall Gribog Fwyaf
ac ystlumod, sy'n codi problemau arbennig. Mae gan MMAmgylcheddol
weithwyr trwyddedig, a phrofiad o reoli'r rhywogaethau hyn.
Cyswllt â Chyrff Statudol ac Anstatudol: Fe fyddwn ni'n rheoli
cyswllt â chyrff cadwraethol ac amgylcheddol statudol, fel CCGC
ac Asiantaeth yr Amgylchedd, a sefydliadau anstatudol fel yr
RSPB. Rheoliad Prosiectau Ymarferol: Fe fyddwn ni'n ymchwilio,
dylunio ac yn gweithredu prosiectau ymarferol, naill ai fel
lliniariad ar gyfer effeithiau amgylcheddol neu i wella prosiectau,
ym meysydd cadwraeth, amgylcheddau mwynder, mynediad a threftadaeth.
Gall prosiectau gynnwys:
1) Gwarchod nodweddion amgylcheddol, fel coed, rhywogaethau,
cynefinoedd, a nodweddion archeolegol
2) Adfer neu greu cynefinoedd, fel glannau afon, pyllau, coetiroedd,
rhostiroedd, dolydd blodeuog
3) Trawsleoli cynefinoedd a rhywogaethau, fel dolydd, rhostiroedd,
mamaliaid bach, ymlusgiaid
4) Creu tirweddau naturiol ac amgylcheddau bioamrywiol i ategu
cynlluniau datblygu
5) Darparu gwasanaethau 'brîff gwylio' ar gyfer effeithiau amgylcheddol
6) A llawer mwy…….. Monitro ac Ôl-ofal:
Fel arfer, fe fydd prosiectau lliniarol amgylcheddol mawr yn
gofyn am fonitro cyson am ychydig o flynyddoedd ar ôl cwblhau'r
gwaith. Fe fyddwn ni'n rheoli monitro ac ôl-ofal eich prosiect
am hyd at 5 mlynedd yn unol â natur y cytundeb. |
|
|
|