 |
|
Mae MM Amgylcheddol yn asiantaeth ymgynghori
amgylcheddol newydd sy'n seiliedig ar 9 mlynedd o brofiad o
reoli amgylchedd naturiol, mynediad i gefn gwlad a phrosiectau
treftadaeth gyda'n cwmni rhiant Menter Môn - yr asiantaeth fenter
ac amgylchedd ar gyfer Ynys Môn, Gogledd Cymru.
Fe allwn ni ddarparu gwasanaethau ym meysydd arolwg ecolegol,
EIA, rheoli gwarchodfeydd natur, lliniariad amgylcheddol, adfer
cynefinoedd, rheoli prosiectau treftadaeth ac archeoleg, mynediad
i gefn gwlad, dehongli'r amgylchedd a threftadaeth, a cheisiadau
cyllido.
Rydym yn rheoli ar ran cymunedau lleol neu'n berchen ar sawl
gwarchodfa natur gyhoeddus a safleoedd treftadaeth. Mae gennym
ni hefyd bedwar prosiect gwarchod rhywogaethau ar gyfer gwiwerod
coch, dyfrgwn, llygod pengrwn y dwr ac ystlumod. Rydym wedi
gweithredu prosiectau mynediad o bwys i gefn gwlad - gan gynnwys
Llwybr Arfordirol Ynys Môn a llwybr beicio oddi ar ffordd, sef
'Lôn Las Cefni' - ac mae gennym bortffolio eang o daflenni a
llyfrynnau i gyd-fynd â thwristiaeth wledig ac i annog hynny.
Mae gennym ni brofiad o ddehongli'r amgylchedd, o ddylunio a
chynhyrchu byrddau a thaflenni gwybodaeth i gyhoeddi llyfrau.
Mae gennym awduron, ymchwilwyr a dylunwyr â phrofiad yn y maes
ymysg y staff ac yn allanol.
Mae gennym ein gweithdy dodrefn cefn gwlad ein hunain a thimau
adeiladu ar gyfer prosiectau mynediad - llwybrau, ffensio, camfeydd,
pontydd, llwybrau pren, etc.
Rydym wedi ymrwymo i roi'r un safonau uchel mewn grym gyda'n
gwasanaethau amgylcheddol ag a wnawn gyda'n prosiectau amgylcheddol
ein hunain.
Mae MM Amgylcheddol yn gwmni nid er elw. Mae pob gwarged yn
cael ei ail-fuddsoddi ym mhrosiectau amgylchedd naturiol Menter
Môn. |
|
|
|
|