MM
Cyngor Sir Proffil Cwmni PORTFFOLIOS Newyddion Cartref
Peirianwyr Sifil Mynegai Gwasanaeth Cysylltiadau Cleientiaid Dolenni

Gwasanaethau
 
Cipolwg ar y Gwasanaethau
Arolygon Ecolegol a Nodi Rhywogaethau >>
Rheoli Rhywogaethau a Warchodir >>
Rheoli Gwarchodfeydd Natur Cymunedol >>
Creu Cynefinoedd Newydd ac Adfer Cynefinoedd >>
Rheoli Rhywogaethau Estron neu rai sy'n Bla >>
Asesiad o Effaith Amgylcheddol ar Ddatblygiadau Cynllunio >>
Treftadaeth >>
Mynediad i Gefn Gwlad >>
Dehongli'r Amgylchedd a'r Dreftadaeth Naturiol >>
Hyfforddiant Arbenigol a Chyrsiau Maes >>

  • Arolygon cynefinoedd NVC Cam 1 a 2
  • Arolygon cynefinoedd wedi'u teilwrio i amgylchiadau unigol, gan gynnwys cynefinoedd tirol, dwr croyw a morol
  • Arolygon o rywogaethau, gan gynnwys adar, mamaliaid (gan gynnwys ystlumod), ymlusgiaid, amffibiaid ac anifeiliaid di-asgwrncefn, planhigion, fflora a ffawna morol
  • Cyngor ar reoli ac ar ddylunio a gweithredu prosiectau ymarferol
  • Mae'r rhywogaethau'n cynnwys llygod pengrwn y dwr, gwiwerod coch, ystlumod, adar a rhai eraill ar gais
  • Asesu ac arfarnu safleoedd bywyd gwyllt, gan gynnwys materion ecolegol, mynediad, addysg, amaeth a rheoli tir
  • Trafod â chymunedau lleol ac asiantaethau cadwraeth statudol a gwirfoddol
  • Paratoi a gweithredu cynlluniau rheoli
  • Datblygu a gweithredu prosiectau
  • Rhoi cyngor ar ba mor addas ac ymarferol yw prosiectau creu neu adfer cynefinoedd
  • Dylunio a gweithredu'r prosiectau
  • Cyngor ar reoli rhywogaethau anfrodorol, e.e. gwiwerod llwyd, mincod Americanaidd, ffromlys chwarennog
  • Datblygu a gweithredu prosiectau ar gyfer monitro a rheoli
  • Gwasanaeth EIA llawn
  • Cyngor ar agweddau ac effeithiau amgylcheddol a threftadaeth ceisiadau cynllunio a datblygiadau
  • Arolygon ecolegol ac archeolegol ac argymhellion ar reoli
  • Dylunio a gweithredu Systemau Rheoli Amgylcheddol
  • Goruchwylio lliniaru amgylcheddol a gwaith gwella'r amgylchedd
  • Arolwg a gwerthusiad o safle
  • Rheoli ac adfer ymarferol
  • Rheoli ymwelwyr
  • Cyngor ar brosiectau mynediad, gan gynnwys cerdded, beicio, marchogaeth ceffylau
  • Dylunio a gweithredu prosiectau mynediad
  • Datblygu deunydd marchnata
  • Creu dodrefn cefn gwlad
  • Adeiladu llwybrau, llwybrau pren, pontydd
  • Ysgrifennu a dylunio taflenni, llyfrynnau a phanelau gwybodaeth
  • Ysgrifennu erthyglau mewn cylchgronau
  • Cyhoeddi llyfrau
  • Cynhyrchu deunydd addysgol
  • Arolygu cynefinoedd a rhywogaethau penodol
  • Rheoli rhywogaethau sy'n bla
  • Rheoli cynefinoedd penodol

Managing Community Nature Reserves
Fe allwn ni roi cyngor ar sefydlu a rheoli gwarchodfeydd natur cymunedol. Mae gan Fenter Môn brofiad hir o weithio gyda chymunedau lleol i ddatblygu a sefydlu gwarchodfeydd natur, yr ydym yn eu rheoli ar eu rhan. Mae'r rhain yn cynnwys cymysgiad o Warchodfeydd Natur Lleol (LNR) swyddogol, wedi eu dynodi gan Gynghorau Cymuned neu Gynghorau Sir, a safleoedd answyddogol sydd naill ai'n eiddo i Fenter Môn neu ar Dir Comin dan reolaeth y gymuned leol.

Mae prosiectau'n dechrau â gwerthusiad o'r safle o ran bioamrywiaeth, tirwedd, archeoleg, mynediad a dyheadau'r gymuned leol. Gwneir asesiad o'r potensial i wneud yn fawr o'i nodweddion a gwella mynediad mewn modd fyddai'n gyson â chadw'r nodweddion yma.

Ymgynghorir yn llawn â'r asiantaethau cadwriaethol ac amgylcheddol a'r cyrff gwirfoddol perthnasol. Gwneir penderfyniad wedyn ynghylch ai peth buddiol fyddai dynodi'r safle'n swyddogol fel LNR, neu a ddylid ei reoli'n llai ffurfiol. Dylunnir cynllun rheoli wedi hynny, a gwneir defnydd o gyllid i roi'r prosiectau ar waith, sydd gan amlaf yn cynnwys rheoli cynefinoedd, creu llwybrau a dodrefn, taflenni a byrddau gwybodaeth.

Mae amrywiaeth o fathau o gynefinoedd wrthi'n cael eu rheoli, gan gynnwys rhostir yr iseldir, rhostir arfordirol, twyni, coetiroedd gwlyb a sych, blodau'r dolydd, a chynefin torlannol. Dewisir safleoedd yn gyffredinol am eu diddordeb a'u pwysigrwydd lleol, ond y maent hefyd o safon uchel sy'n aml yn nesu at SoDdGA (yn enwedig y safleoedd rhostir). Mae'r rhan fwyaf o fewn AHNE Ynys Môn.
Maritima S Verna
Portffolio Prosiect
Gwarchodfeydd Natur Lleol Tiroedd Comin Llanddona a Llaniestyn >>
Gwarchodfa Natur Leol Tir Comin Llangoed >>
Tir Comin Marian-glas >>
Tir Comin Tywyn Trewan >>
Castell a choetir Aberlleiniog >>

  Dr H.A.Knott, MM Environmental, Bryn Cefni Industrial Park, Llys Goferydd, Llangefni, Ynys Môn LL77 7XA
  Tel: 01248 725 700 Fax: 01248 725 735 Email: